P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai, Gohebiaeth – Deisebydd i'r Pwyllgor, 04.02.21

 

Annwyl gyfeillion,

 

Diolch unwaith eto am y gwahoddiad i fynegi sylwadau ynglyn a'r ddeiseb ar ddeddfu i atal newid enwau tai o'r gymraeg.

 

Rwyf yn hynod o falch bod y mater bellach wedi ei drafod ar lawr y senedd ac yn diolch i'r holl gyfrannwyr am eu cefnogaeth. Rwyf yn cytuno hefo'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a godwyd, ac yn falch y tro hwn bod cefnogaeth ar draws y meinciau.

 

Fel esboniwyd gan gadeirydd y pwyllgor deisebau (Mrs Janet Finch-Saunders AS), mae'r ddeiseb yn gofyn am rhywbeth eithaf cyfyng, o bwrpas.  Y gobaith yw i warchod enwau tai yn neulltuol, er fy mod yn fawr gefnogi gwarchod enwau cymraeg pob lleoliad. Mae hwn yn bwnc sydd tu hwnt i unrhyw wleidyddiaeth, dras neu dafodiaith. Mae'r enwau yma'n drysorau cenedlaethol, yn hanfodol i ddilyniant yr iaith a'r cymunedau y maent yn rhan ohonni. Mae'r nifer a lofnododd y ddeiseb yn brawf i hynny ac yn profi pa mor agos yw'r enwau yma i galonnau ni'r cymru.

 

Hoffwn ailadrodd beth a ddywedas mewn sylw blaenorol, diolch yn fawr am y cyfle i gychwyn y bleidlais, a wnewch chi os gwelwch yn dda ddefnyddio'r cyfle euraidd hwn i warchod ein hetifeddiaeth i'r cenedlaethau sydd i ddilyn. Mae hiatws yn ein gwlad gyda'r nifer sydd yn mewnfudo, ac os na wnawn ni ddeddfu, cam wrth gam (neu dŷ wrth dŷ), mae Cymru yn colli'r hyn sy'n eu gwneud yn unigryw sydd mor bwysig yn y diwedd i'r economi. 

 

Mae'n siom fawr na chaiff y pwnc ei drafod eto cyn yr etholiad o bosib, ond hoffwn yn wir petai'r llywodraeth nesaf yn parhau hefo'r egni a'r momentwm sydd wedi ei ddangos gan y gwleidyddion presennol.

 

Diolch i holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith, beth am fynd gam ymhellach a creu deddf y gallwn i gyd fod yn falch ohonni!

 

Yn gywir,